Rydych yma : Hafan > Tu hwnt i'r ardal hon

Tu hwnt i’r ardal hon

Mae’r adran hon yn delio gyda sut mae Cymunedau yn Gyntaf yn cysylltu â meysydd eraill, llywodraeth, cyrff cyhoeddus, grwpiau busnes a gwirfoddol. Yn y tymor hir, bydd dysgu am yr hyn sy’n digwydd mewn ardaloedd eraill lle mae Cymunedau yn Gyntaf ar waith, trwy Gymru a Phrydain, yn cynorthwyo llwyddiant tymor hir ardaloedd y rhaglen, a’u hardaloedd cyfagos ym Mhowys.   Mae llawer o bethau da’n digwydd o gwmpas y wlad, a gellir addasu llawer ohonynt i ddibenion Powys.

Trwy weithio gydag eraill – nid yn unig cymunedau, ond hefyd busnesau a chynghorau – bydd hyn yn helpu rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf ym Mhowys i fod yn fwy llwyddiannus. 

Gyda lwc, bydd yr adrannau sy’n dilyn yn ein cynorthwyo ni i gyd i weithio’n well gyda’n gilydd a rhannu’r hyn rydym yn gwneud yn dda.

 

Pam ei bod hi mor bwysig deall strategaethau a gweithio iddynt?

Nid proses ad hoc yw datblygu ein cymdeithas. Mae agweddau economaidd, gwleidyddol, demograffeg, technolegol ac amgylcheddol ar lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol oll yn effeithio ar ein cymdeithas, ac mae ein cymdeithas yn effeithio arnynt hwy yn ei dro. Nid ydym yn byw mewn unigedd – mae ’na gysylltiad rhwng y pethau hyn.  

Mae strategaethau sy’n cael eu llunio gan y llywodraeth neu gan grwpiau ymchwil yn ceisio datod y cymhlethdod, i’w wneud yn ddealladwy er mwyn i fwy o bobl deall y ffordd mae’n cymdeithas yn datblygu. Os mae’r trywydd yn iawn, yna bydd y strategaethau’n awgrymu [yn seiliedig ar brofiad a dull o feddwl y rhai sydd wedi eu llunio] y dulliau gorau i gynnal y duedd. Os mae’n ymddangos fod y duedd yn mynd i gyfeiriad negyddol, yna bydd y strategaethau’n darparu dulliau i arafu, atal neu newid cyfeiriad y duedd.

Felly, trwy ddeall cyfeiriad y strategaethau perthnasol, cawn arweiniad ar sut i gyfeirio ein hymdrechion i blesio pawb. Ar ben hyn, mae nifer o gyrff ariannu yn nodi cyfeiriad y strategaethau hyn ac yn aml maent yn cyfeirio eu cymorth ariannol i fudiadau sy’n gweithio yn yr un cyfeiriad.