Cyrff Cyhoeddus a Chymunedau yn Gyntaf
Sef y mudiadau hynny sy’n cael eu hariannu drwy drethi, sy’n darparu ystod eang o wasanaethau angenrheidiol, sydd yn gyflogwyr mawr o fewn ein cymunedau. I raddau helaeth, mae’r gwasanaethau a darperir, yn cael eu dylanwadu gan gynlluniau a strategaethau’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Prydain (gweler ‘Y Llywodraeth a Chymunedau yn Gyntaf’), a chyllidebau.
Dylai eu cyfraniad hwy i bartneriaethau ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf sicrhau fod yr adnoddau sydd ganddynt a’r gwasanaethau a darperir o fewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn digwydd mewn dulliau sy’n galluogi ac yn datblygu hunanddibyniaeth a chynaladwyedd o fewn y gymuned, ac yn sicrhau fod unrhyw faterion sydd angen ymateb er mwyn codi safonau i’r lefel a ddisgwylir gan y boblogaeth yn gyffredinol, yn cael eu cyflawni mewn ffordd lwyddiannus.
Gweithio mewn Partneriaeth – Datblygu a Gweithredu Strategaeth Gymunedol
Y Strategaeth Gymunedol yw sail cynllunio cymunedol yng Nghymru. Mae’n amlinellu dyletswyddau statudol Awdurdodau Lleol i arwain ac uno partneriaid allweddol o bob sector er mwyn cydlynu gwasanaethau, a’r prosesau o’u cynllunio a’u cyflwyno ar lefel Awdurdodau Lleol. Gweler ‘Cyrff Cyhoeddus a Chymunedau yn Gyntaf’.
Gellir edrych ar Strategaeth Gymunedol Powys ar: http://community-strategy.powys.org.uk Rhannwyd y Strategaeth Gymunedol yn themâu sy’n adlewyrchu’r materion sydd angen delio â hwy er mwyn sicrhau ystyriaeth i holl agweddau ar fywyd ein cymunedau a’n sir. Mae’r themâu fel a ganlyn: · Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles. Mae hyn yn cynnwys tai - er enghraifft sicrhau fod digon o dai fforddiadwy ym Mhowys i ddiwallu anghenion trigolion; hybu iechyd, atal a gofal; helpu’r rhai sy’n teimlo eu bod ar ymylon ein cymdeithas oherwydd materion ym maes ethnigrwydd, anabledd, iechyd neu reswm arall sy’n eu rhwystro rhag cael eu cynnwys yn llawn, a gwella iechyd a gofal i’r sawl sydd eu hangen - – pobl ifanc, pobl anabl a phobl mewn oed. · Dysgu Gydol Oes – helpu pobl i ddysgu trwy gydol eu hoes, er budd mwynhad personol yn ogystal â gwella sgiliau gwaith. Anogaeth hefyd ar gyfer yr Iaith Gymraeg a Thechnoleg Gwybodaeth. · Datblygu Economaidd – cynyddu sgiliau gwaith, helpu Powys i fod yn ardal lle mae digonedd o gyfleoedd gwaith, yn ogystal â sicrhau nad yw ein sefyllfa wledig yn cael ei difrodi. · Yr Amgylchedd – mae hyn yn cynnwys cynllunio, trafnidiaeth, rheoli gwastraff, ein trefi a’n pentrefi yn ogystal â chefn gwlad. · Diogelwch cymunedol - mae’r maes gwaith yma’n delio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio sylweddau, lleihau ofn troseddau, a diogelwch ar ein ffyrdd ac yn ein cartrefi.
Mae’r Strategaeth Gymunedol erbyn hyn yn cynnal trydydd adolygiad blynyddol – felly gwyliwch allan am ddiweddariadau.
Bwriad rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yw integreiddio i’r Strategaeth Gymunedol. Felly mae ei themâu’n dilyn y rhai a amlinellir uchod.
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys