Canlyniadau’r Ymchwil
Canlyniadau’r Ymchwil
- Canlyniadau ymchwil prentisiaeth diwydiant adeiladu Bro Ddyfi
- Ymchwil Joseph Rowntree – cyflwyniad o Gynhadledd Cymunedau yn Gyntaf 8fed Tachwedd
- Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu
Rhwydwaith Adfywio sy’n seiliedig yn y gymuned yw’r mudiad hwn. Yn ddiweddar, nhw oedd yn gyfrifol am gyhoeddi adroddiad dan yr enw ‘Rural Social Exclusion & Development Trusts - how members of the DTA address rural disadvantage.’ Lluniwyd yr adroddiad o ddadansoddiad o aelodaeth DTA 2004. Mae’r crynodeb o’r adroddiad fel a ganlyn
- Mae’n bwysig darparu amgylchfyd cynhwysol
- O’r gwasanaethau a ddarperir gan Ymddiriedolaethau Datblygu Gwledig, mae 4 maes yn dod i’r amlwg -
- Rheoli asedau eiddo
- Cefnogi’r amgylchedd (wedi’i adeiladu a naturiol)
- Addysg a hyfforddiant
- Datblygu Cymunedol
- Mae problemau mewn ardaloedd gwledig mewn perthynas â chynnydd yn y boblogaeth o fewnfudwyr mewn oed, ond oedolion ifanc yn allfudo.
- Yn aml, mae adeiladau sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned, yn allweddol i ddatblygu strategaeth o ddatblygiad cynaliadwy.
- Mae ’na gysylltiad cryf i’r gymuned a gweithio mewn partneriaeth gadarn - sy’n goresgyn rhwystrau i gyflwyno gwasanaethau cydgysylltiedig.
- Trwy ddarparu gwasanaethau i bob grŵp mae i Ymddiriedolaethau Datblygu sail gymunedol helaeth.
- Gall Ymddiriedolaethau Datblygu ddangos sut y dylid gwneud pethau.
- Peth da yw cael dull busnes o weithio mewn perthynas â chyflwyno gwasanaethau oherwydd mae hyn yn cynorthwyo gyda chynaladwyedd.
Sylwadau gan Ymddiriedolaethau Datblygu unigol
- Creu economi sy’n seiliedig ar wybodaeth – yn canolbwyntio ar dreftadaeth, diwylliant a’r amgylchedd (Norfolk – Wayland PDT)
- Dod ag asiantaethau a mudiadau allweddol at ei gilydd er mwyn tynnu sylw at anghenion a chael hyd i ffordd i’r dyfodol (Langport DT)
- Mae sefydlu canolfan adnoddau cymunedol i’r celfyddydau, addysg, hamdden, caffi ac ati yn allweddol (Cernyw)
- Mae creu bond cadarn o ffydd gyda phobl leol yn bwysig (Amble DT)
I weld yr adroddiad llawn a gwybodaeth am Gymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu:
Ffoniwch: 01453 519177 Gwefan: www.dta.org.uk