Pentref ym mlaen Cwm Tawe yw Ystradgynlais. Yn ôl y mynegrifau amddifadedd roedd yn un o 100 o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Sefydlwyd rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yno yn 2000. Mae partneriaeth ffurfiol wedi'i chreu yn awr, gyda Tom Addey (ar y dde) yn cydlynu.
Tom Addey
Cyfeiriad: Cymunedau yn Gyntaf Ystradgynlais, 6 Heol Commercial, Ystradgynlais, Powys.
Ebost: tomaddey@powys.gov.uk
Ffôn: 01639 845051
Yw datblygu cymuned hunangynhaliol sy'n gweithio'n dda, a lle bo pobl o bob oed yn cydweithio i sicrhau fod ei thrigolion yn fawr eu gofal, goddefgar, iach, medrus ac â'u bryd ar y dyfodol - lle yr ydym yn falch o gael byw ynddo.
Yr amcan cyffredinol yw:-
"Meithrin a chryfhau adfywio economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cymuned Ystradgynlais a Blaen Cwm Tawe"
Gobaith y bartneriaeth hefyd yw:
Datblygodd y pentref a'r ardal oddi amgylch o ganlyniad i'r diwydiannau glo a dur. Dechreuodd y rhain ddirywio yn y 1970au a chau fu hanes pob un erbyn diwedd yr 80au. Oddeutu diwedd y 1990au, collwyd 1500 o swyddi ychwanegol pan gaewyd ffatrïoedd Lucas SEI a Dewhirst. Bu effaith hefyd yn sgîl colli swyddi yn y diwydiant petrocemegol ymhellach i'r de.
Mae problemau'r ardal yn amlwg - gweithgarwch economaidd isel, llawer o ddiweithdra, graddfeydd uchel o afiechyd tymor hir, pobl ifanc yn ymadael i chwilio am gyfleoedd oddi cartref ac olion gweithgarwch diwydiannau'r gorffennol ar y tirlun.
Ffurfiwyd grwp llywio i ddechrau gyda 18 o bobl oedd yn cynrychioli'r gymuned a busnesau lleol yn ogystal â'r Awdurdod Lleol.
Penodwyd Hwylusydd ym mis Mawrth 2002.
Agorwyd Canolfan Cymunedau yn Gyntaf yn Commercial Street, Ystradgynlais (yng nghanol y dref) ar Awst 31 2002.
Ym mis Mai 2002 dechreuwyd ymgynghoriad ar 'Gynllunio ar gyfer ein cymuned'. Pwrpas hyn oedd annog trigolion o bob oed i gyflwyno syniadau ac awgrymiadau ar gyfer gwella cymuned Ystradgynlais a'r cylch.
Mae Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Ystradgynlais yn Gwmni Cyfyngedig gan Warant. Mae i'r bartneriaeth fwrdd gyda 14 o gyfarwyddwyr a thri aelod o Awdurdod Datblygu Cymru, Cymdeithas Cyrff Gwirfoddol Powys a Chyngor Sir Powys nad ydynt yn gyfarwyddwyr. Enw swyddogol y bartneriaeth yw Cymunedau yn Gyntaf Ystadgynlais Cyfyngedig.
Cynhelir cyfarfod cyhoeddus bob mis gan y cwmni a bu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Mehefin 2004, pan etholwyd aelodau i'r bwrdd.
Rydym nawr yn ceisio am statws elusen.
Trafodir ychydig o'r cynlluniau isod (pwysleisiwyd rhai o'r materion y rhoddodd y cynlluniau hyn sylw iddyn nhw gan drigolion lleol yn y digwyddiad ymgynghori).
Mae'r fforwm wedi dod â'r holl ddarparwyr hyfforddiant lleol ynghyd ac wedi creu cyfeiriadur i gyrsiau hyfforddi sydd ar gael o fewn y gymuned. Cynhyrchir llyfryn bob tymor, i roi gwybod i'r gymuned am y cyrsiau sydd ar gael, a'u lleoliad.
Bu Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf, prosiect Triongl a'r Canolfan Gwirfoddolwyr yn cydweithio i gynhyrchu cronfa ddata sy'n cwmpasu holl gyrff a grwpiau lleol yr ardal. Mae'r gronfa'n cynnwys 170 o gyrff ac yn cael ei diweddaru'n chwarterol. Sefydlwyd grwp cyfathrebu er mwyn sicrhau mwy o gyfathrebu rhwng yr holl grwpiau a geir yn y gymuned.
Bu cynnwys ieuenctid yn bwnc allweddol yn Ystradgynlais a gweithredwyd nifer o gynlluniau mewn partneriaeth â'r gwasanaeth Ieuenctid, Cyngor y Dref, Ymddiriedolaeth y Tywysog, Heddlu Dyfed Powys a grwpiau eraill. H.y. Parc Sglefrfyrddio a Llwybrau Diogel i'r Ysgol. Enillodd y ddau yma Wobrau Cenedlaethol yn ddiweddar
Agorwyd Canolfan Octopws ym mis Ionawr 2003. Mae hon yn darparu canolfan ar gyfer pob oedran, gan helpu i bobl ddatblygu ffyrdd mwy iach o fyw drwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau.
Mae'r bartneriaeth yn gweithio gyda'r Comisiwn Coedwigaeth, Cymdeithas Cerddwyr Tawe, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Tref Ystradgynlais a Chyngor Sir Powys i wella llwybrau lleol yr ardal ac agor llwybrau newydd yn y rhanbarth.
Ceir nifer o fforymau sy'n ymdrin â materion penodol, yn eu mysg:
Isod ceir crynodeb o gyfran yn unig o'r rhain:-
Mae llawer o waith da wedi'i gyflawni. Yn ôl ymateb a gafwyd gan y gymuned, roedd gwir angen y gwaith yma ac fe'i gwerthfawrogir yn fawr.
Bu parodrwydd i weithio mewn partneriaeth â nifer o asiantaethau allweddol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol yn allweddol i lawer o'r llwyddiant
Mae Ystradgynlais wedi cymryd camau bras tuag at y nod o adfywio ei hun, ac mae cynlluniau gan y dref i gymryd llawer mwy yn y dyfodol.
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys